Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol
Cofrestru atwrneiaeth arhosol
Pan fyddwch wedi gwneud eich atwrneiaeth arhosol (LPA), rhaid i chi ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
Mae’n cymryd 8 i 10 wythnos i gofrestru LPA os nad oes unrhyw gamgymeriadau yn y cais.
Gallwch wneud cais i gofrestru eich LPA eich hun os ydych yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun.
Gall eich atwrnai gofrestru’r LPA ar eich rhan hefyd. Byddwch yn cael gwybod os bydd yn gwneud hynny a gallwch wrthwynebu’r cofrestru.
Hysbysu pobl
Cyn cofrestru, anfonwch ffurflen i hysbysu pobl (LP3) at yr holl ‘bobl i’w hysbysu’ (a elwir hefyd yn ‘bobl i gael gwybod’) rydych wedi’u rhestru yn yr LPA.
Bydd ganddynt 3 wythnos i fynegi unrhyw bryderon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud atwrneiaeth arhosol, bydd yn creu ac yn llenwi’r ffurflenni LP3 ar eich rhan.
Sut i gofrestru
Gwnewch gais i gofrestru cyn gynted ag yr ydych wedi anfon y ffurflenni i hysbysu pobl.
I gofrestru, bydd angen i chi lofnodi eich ffurflen atwrneiaeth arhosol wedi’i llenwi a’i hanfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os byddwch yn creu eich ffurflen atwrneiaeth arhosol gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen i chi ei hargraffu i wneud hyn.
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y ffurflen LPA wreiddiol a’r ffi.
Gallwch anfon copi ardystiedig os nad yw’r ffurflen wreiddiol gennych chi. Ysgrifennwch lythyr yn cyd-fynd i esbonio pam nad yw’r gwreiddiol gennych chi.
Os gwnaethoch eich LPA gyda ffurflen bapur hŷn
Gallwch gofrestru drwy lenwi ffurflen LP2 os gwnaethoch eich LPA:
- ar ffurflenni LPA114 neu LPA117 cyn 1 Ionawr 2016
- ar ffurflenni LP PA neu LP PW cyn 1 Ebrill 2011
Fel arall bydd rhaid i chi wneud LPA newydd.
Faint mae’n ei gostio
Mae’n costio £82 i gofrestru LPA.
Os ydych eisiau gwneud cais am LPA iechyd a lles a LPA eiddo a materion ariannol, bydd yn costio cyfanswm o £164.
Gallwch dalu gyda:
- cherdyn credyd neu ddebyd
- siec
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Office of the Public Guardian’ ac ysgrifenwch eich enw ar y cefn. Anfonwch y siec i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda’ch ffurflenni.
Cael gostyngiad neu esemptiad
Gallwch wneud cais am ostyngiad os ydych chi’n ennill llai na £12,000. Efallai y gallwch hefyd wneud cais am esemptiad os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm.
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais. Mae yna fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar y ffurflen.
Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar eich ffurflen
Gan ddibynnu ar y math o gamgymeriad, efallai y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gadael i chi ei gywiro a gwneud cais arall o fewn 3 mis am £41.